Charlotte Church (Llun: PA)
Charlotte Church yw un o 60 o bobol sydd wedi arwyddo llythyr agored at Brif Weinidog Prydain yn gofyn iddo gadw meddwl agored am gyfreithiau newydd i gyfyngu ar y wasg a’r cyfryngau.

Fe fydd y gantores o Gaerdydd hefyd yn siarad mewn cyfarfod yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr yr wythnos yma i alw am ddeddfwriaeth.

Mae hi ac aelodau eraill o’r ymgyrch Hacked Off yn flin ar ôl awgrymiadau yn y wasg fod y Prif Weinidog David Cameron eisoes wedi gwrthod y syniad o gyfreithiau newydd a hynny er nad yw Ymchwiliad Leveson wedi cyflwyno’i adroddiad.

Mae arwyddwyr eraill y llythyr yn cynnwys ddioddefwyr hacio ffonau, teuluoedd pobol a laddwyd yn ymosodiadau 7/7 yn Llundain a theuluoedd meirwon Hillsborough.

Wedi ‘dychryn’

Mae’r rhai sydd wedi arwyddo wedi eu “dychryn” tros adroddiadau fod casgliadau’r Arglwydd Leveson wedi eu gwrthod, hyd yn oed cyn iddo wneud ei adroddiad, yn ôl cyfarwyddwr Hacked Off, Brian Cathcart.

“Mae’n anodd credu bod y Prif Weinidog, a sefydlodd yr ymchwiliad yma, wedi gwneud y fath benderfyniad,” meddai.