Mae 45 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi arwyddo llythyr yn galw ar David Cameron i atal cynllun £36 biliwn i uno BAE Systems ac EADS.

Mae EADS yn cyflogi 6,000 o weithwyr yn ei ffatri ym Mrychdyn ac mae gan BAE Systems ffatri yng Nglasgoed, Sir Fynwy.

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi cefnogaeth amodol i’r cynllun ond, ddiwrnod yn unig cyn i gynhadledd y Blaid Geidwadol gychwyn, mae’r ASau wedi mynnu na ddylai David Cameron gefnogi’r cynllun.

Dywed yr ASau yn y llythyr eu bod yn bryderus ynglŷn â chynllun a fyddai’n rhoi’r rhan helaeth o ddiwydiant amddiffyn Prydain yn nwylo cwmni sy’n berchen yn bennaf gan lywodraeth Ffrainc a’r Almaen.

Maen nhw’n dweud na fyddai’r cytundeb o fudd i’r DU.

Mae llywodraeth Ffrainc, yr Almaen a Phrydain wedi bod yn ceisio cytuno ar delerau i gefnogi’r cynllun. Mae’n rhaid iddyn nhw ddod i gytundeb erbyn dydd Mercher.

Mae Ffrainc a’r Almaen yn berchen cyfran o 22.2% yng nghwmni EADS ac maen nhw’n mynnu cyfran o leiaf 13.5% yr un yn y grŵp newydd EADS-BAE.

Dywed yr ASau na ddylai llywodraethau Ewropeaidd fod a chyfrannau yn y grŵp newydd.