Cerbydau'r heddlu ym Machynlleth
Mae’r heddlu ym Machynlleth wedi egluro beth yw maint yr ymgyrch i ddod o hyd i gorff April Jones.

Fe eglurodd eu llefarydd fod yr holl wasanaethau brys yn cydweithio ynghyd â 100 o aelodau timau achub arbenigol.

Yn ôl yr Uwcharolygydd Ian John, mae cychod gydag offer sonar yn cael eu defnyddio a hofrennydd sy’n gallu canfod gwres.

Ar ôl i’r heddlu gael 24 awr arall i holi Mark Bridger, a hynny bellach ar amheuaeth o lofruddiaeth, maen nhw wedi gofyn i’r gwirfoddolwyr bellach adael y gwaith i’r arbenigwyr.

Ar yr un pryd, fe ddiolchodd yn hael i’r gymuned leol a’r gwirfoddolwyr sydd wedi dod o bell, i Gyngor Powys ac i staff y Llywodraeth yn Aberystwyth.