Darlun o adeilad prosiect Pontio
Mae criw cynllun Pontio Prifysgol Bangor yn gofyn i’r cyhoedd enwi’r adeilad newydd sydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

“Wrth i ni edrych ymlaen at weld canolfan newydd sbon yng nghanol Bangor,” meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, “rydan ni’n lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i enw bachog ar gyfer yr adeilad unigryw sy’n gweithio yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.

“Prosiect neu broses ydi Pontio, ond mae angen enw ar yr adeilad. Mae hwnna’n ymbarel ar yr adeilad i gyd; efallai bydd yna enw gwahanol ar y gofodau tu fewn.

“Mae’n rhaid i’r hyn y mae’n ei gynrychioli fod yn eitha’ eang, oherwydd mae’n ymbarel dros adeilad lle mae yna lot o wahanol weithgareddau yn digwydd o’i fewn.

“Ry’n ni’n gofyn am eich help chi – dewch â’ch cynigion!”

Fe fu’r trefnwyr yn holi myfyrwyr Bangor yn ystod Wythnos y Glas am syniadau, ac hefyd maen nhw’n dosbarthu taflenni o gwmpas yr ardal i ddenu cynigion.

Enw un gair, “cryno, bachog, syml, clir” fyddai orau gan y Cyfarwyddwr Artistig.

“Dw i eisiau enw dysfeisgar, dw i ddim eisiau ‘Canolfan Ny-ny-ny-ny-ny-nyy’!” meddai Elen ap Robert. “Os ydan ni yn ganolfan y celfyddydau ac arloesi, mae eisiau i’r enw fod yn arloesol. Mae eisiau i ni feddwl yn llorweddol, chwilio ymhell.

“Mae eisiau bod yn ymwybodol o’n cyd-destun ni, yn lle ydan ni, ei fod yn gweithio ar sawl lefel, yn dweud sawl peth sy’n berthnasol i ni a’r hyn rydan ni’n anelu ato, a’r hyn ry’n ni’n ei gynrychioli. Mae angen cyfleu ffordd o feddwl.

Mae croeso i bobol anfon eu syniadau am enwau at info@pontio.co.uk ac mae’r dyddiad cau ar Ragfyr 21. Bydd panel o gynyrchiolwyr yn cynnwys aelodau o gyrff cyhoeddus ac addysgol a’r gymuned yn dewis yr enw, a’i gyhoeddi ar Fawrth 1.