Protest yn erbyn cau Ysgol y Parc (Llun o wefan Cymdeithas yr Iaith)
Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o anwybyddu ymatebion i ymgynghoriad cyn penderfynu cau ysgol ger y Bala.

Dydd Iau fe fydd Pwyllgor Craffu Addysg y cyngor yn ystyried a ddylid cau Ysgol y Parc ym mis Medi 2012.

Daeth ymgynghoriad statudol yn dilyn arymhelliad i gau yr ysgol i ben ar 4 Chwefror.

Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n credu fod swyddogion wedi cyfansoddi’r adroddiad cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.

“Derbyniwyd degau o ymatebion i ddogfen ymgynghorol y Cyngor am ddyfodol Ysgol y Parc, gan gynnwys ymateb manwl gan Gymdeithas yr Iaith a redodd i rai miloedd o eiriau,” meddai Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar addysg.

“Ydyn ni i fod i gredu fod y swyddogion wedi llwyddo o fewn 10 niwrnod o waith i ddadansoddi’r holl ymatebion, gwerthuso’r holl syniadau a godwyd, trafod eu casgliadau a sgrifennu adroddiad 138 o dudalennau?

“Mae’n amlwg fod y casgliad wedi’i wneud, a’r rhan fwyaf o’r adroddiad wedi’i sgrifennu, ymhell cyn diwedd y cyfnod ymgynghori. Beth yw diben ymgynghoriad o’r fath?”

‘Tanseilio’

Ychwanegodd fod y ffaith nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at y ddau brif wrthwynebiad a gododd Cymdeithas yr Iaith yn brawf nad oedd yr ymatebion wedi eu hastudio’n fanwl gan y swyddogion.

Roedd y Gymdeithas wedi cyflwyno papur manwl yn manylu ar eu gwrthwynebiad rai dyddiau’n unig cyn diwedd yr ymgynghoriad, meddai.

“Os na all cymuned 90% Cymraeg yn Y Parc – sydd ag ysgol a chanolfan gymunedol integreiddiedig – argyhoeddi Cyngor Gwynedd o werth yr ysgol, ni bydd unrhyw cymuned arall yn gallu llwyddo,” meddai Ffred Ffransis.

“Ni byddai cau’r ysgol yn newid iaith y stafell ddosbarth, ond dylai aelodau’r Pwyllgor Craffu fod yn ymwybodol eu bod yn pleidleisio dros gynnig i danseilio un o gymunedau gwledig Cymraeg cryfaf y sir.”