Mae nifer y moch yng Nghymru wedi haneru yn ystod y degawd diwethaf, yn ôl Hybu Cig Cymru.

Maen nhw’n dweud bod costau cynhyrchu wedi cynyddu ac felly, mae pris porthiant hefyd wedi cynyddu.

Yn ôl eu hystadegau, roedd yna 25,600 o foch yng Nghymru erbyn diwedd 2011, sy’n llai na hanner y nifer oedd yn bodoli yn 2000.

Dywedodd Swyddog Gwybodaeth y Diwydiant Hybu Cig Cymru, John Richards: “Mae hyn yn llai na hanner y nifer yn 2000, pan oedd yna 65,200 o foch yng Nghymru.

“Un o’r prif resymau am hyn yw pris uchel porthiant sydd, yn ôl amcangyfrifon, yn cyfrif am hyd at 60% o’r cyfanswm.”

‘Gofid mawr’

Mae cynhyrchwyr yn derbyn 154.8c y kilogram am foch ar gyfartaledd, ond mae’n costio 169c y kilogram i’w cynhyrchu.

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Faterion Gwledig, William Powell: “Mae’r ffaith fod nifer y moch yng Nghymru wedi mwy na haneru ers 2000 yn peri gofid mawr. Mae ffermwyr Cymru yn wynebu sefyllfa gynyddol anodd gan fod eu costau porthiant yn cynyddu lawer ynghynt na gwerth marchnad eu cynnyrch.

“Rhaid i’r Llywodraeth, boed yng Nghaerdydd, San Steffan neu Frwsel, wneud mwy i gefnogi’r diwydiant Cymreig pwysig hwn a sicrhau ei oroesiad yn y dyfodol.

“Fel aelod o Dasglu Polisi Amaeth Cyffredin Cynulliad Cenedlaethol Cymru, byddaf yn ymgyrchu am ragor o ddiwygio i ddiogelu’r sector hanfodol hwn.”