Capel Bethel, Sgeti
Mae’r Parchedig Sion Alun, gweinidog Capel Bethel yn Sgeti, Abertawe wedi marw yn dilyn salwch hir.

Roedd y Parchedig Sion Alun yn weinidog y capel am bron i chwarter canrif.

Bu’n flaenllaw ym myd addysg Gymraeg yn Abertawe, lle bu’n gadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg, yn gadeirydd corff llywodraethu Ysgol Gymraeg Bryn-y-Môr, ac yn is-gadeirydd corff llywodraethu Ysgol Gymraeg Llwynderw.

Bu’n amlwg o’i ddyddiau cynnar ym maes llefaru a siarad cyhoeddus yn eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol.

Yn gystadleuydd brwd yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol, cipiodd brif wobr yr adran Ffwr a Phlu am y tro cyntaf eleni.

Dywedodd Heini Gruffudd, pennaeth ymchwil RhAG wrth BBC Cymru: “Roedd Sion Alun yn driw iawn dros addysg Gymraeg ac yn rhan o’r frwydr yn Abertawe yn ystod cyfnod anodd.

“Ei gariad mawr oedd cadw ieir ac roedd ganddo fe nifer o gyfeillion yn cynnwys rhai o’r Iseldiroedd a’r Alban oedd yn cymharu ieir.

“Roedd e’n ddyn ei filltir sgwâr ac roedd ganddo gyfoeth o straeon o fywyd cefn gwlad ardal Abertawe.”

Mae’n gadael gweddw, Catrin, a dau fab, Steffan a Gwydion.