James Way
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 30 oed o Laneirwg yng Nghaerdydd wedi arestio dyn arall.

Mae’r dyn 46 oed o Drelluest yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio.

Mae dyn 42 oed gafodd ei arestio ym Mynachdy ddydd Sul ar amheuaeth o lofruddio wedi ei gadw yn y ddalfa.

Aethpwyd a James Way i Brifysgol Athrofaol Caerdydd toc wedi 9am ddydd Sul. Roedd yn anymwybodol ac fe fu farw yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty.

Teyrnged

“Rydyn ni’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu sy’n ymchwilio i weld pam bod ein mab cariadus Jason wedi ei gymryd oddi arnom ni mewn modd mor greulon,” meddai ei deulu mewn datganiad.

“Roedd Jason yn fab cariadus, gofalgar ac yn dad da oedd yn gwneud ei orau i helpu eraill. Fe fydd pawb yn gweld ei eisiau.”

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd ar Stryd Holmesdale yn Nhrelluest ddydd Sadwrn, 19 Chwefror.

“Mae arestiad y ddau ddyn yn ddatblygiad cadarnhaol yn yr ymchwiliad, ond rydw i’n galw ato am wybodaeth,” meddai’r Ditectif Arolygydd Mark Lewis.

“Mae’r ymchwiliad yn symud yn gyflym ac rydyn ni’n gweithio’n galed er mwyn canfod yn union beth ddigwyddodd.

“Rydyn ni’n credu bod cweryl wedi digwydd yn, neu gerllaw, Windsor Court ar Stryd Holmesdale, Trelluest, ryw ben rhwng 4pm a 6pm ddydd Sadwrn, 19 Chwefror.

“Os welodd neu glywodd unrhyw un rywbeth amheus yn yr ardal yma, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 02920 571 530 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.