Mae côd ymddygiad ar gyfer cytundebau llaeth wedi derbyn sêl bendith arweinwyr y diwydiant.

Nod y côd yw sicrhau cytundebau tecach i ffermwyr llaeth.

Cytunodd arweinwyr y diwydiant i lunio côd ar ddiwedd Awst yn dilyn trafodaethau â phroseswyr llaeth a chynrychiolwyr ffermwyr.

Cafodd manylion y cytundeb draft eu trafod yn dilyn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Roedd yr angen am gytundeb wedi cynyddu wrth i brisiau llaeth godi, a chafodd protestiadau eu cynnal y tu allan i ffatrïoedd yn Llundain.

Dywedodd Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Stephen James: “Rwyf wrth fy modd fod y fenter bwysig hon yn barod i’w defnyddio yn dilyn misoedd o waith caled gan bob ochr.

“Mae NFU Cymru a’r NFU ill dau wedi pwysleisio’r angen i wella cytundebau llaeth ac rydym yn falch iawn fod yna oleuni ar ddiwedd y twnnel, o’r diwedd, fel y gallwn ni symud ymlaen gyda’r diwydiant i lunio strategaeth gadarn ac uchelgeisiol ar gyfer y sector llaeth.”

Amodau’r cytundeb

Roedd yna bryderon bod cost cynhyrchu llaeth yn uwch na’r swm yr oedd y ffermwyr yn ei gael am werthu’r llaeth.

Ym mis Awst, roedd yna adroddiadau bod y cytundeb yn cynnwys cymal sy’n rhoi’r hawl i ffermwyr adael cytundeb gyda phrosesydd llaeth pe bai prisiau’n codi yn erbyn eu hewyllys, a bod angen i’r ffermwyr roi tri mis o rybudd pe baen nhw’n dymuno torri cytundeb.

Roedd gofyn bod ffermwyr yn cael 30 diwrnod o rybudd pe bai prisiau llaeth yn codi.