Fe fydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio heddiw i benderfynu a ddylid cyflwyno’r Bil Ieithoedd Swyddogol.
Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd.
Holl bwrpas y Bil Ieithoedd Swyddogol yw “diogelu’n gyfreithiol ymrwymiad y Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad i fod yn sefydliad dwyieithog sydd â’r Saesneg a’r Gymraeg yn ieithoedd swyddogol”.
Pe bai’r Bil yn cael ei basio, byddai cofnodion trafodaethau cyfarfodydd llawn y Cynulliad ar gael yn y ddwy iaith.
Ond fydd hyn ddim yn golygu y bydd holl drafodaethau pwyllgorau’r Cynulliad yn cael eu cyfieithu.
Dydy’r Cynulliad na’r Comisiwn ddim yn cael eu rheoli gan Fesur y Gymraeg 2011, ac fe gafodd y cynnig ei gyflwyno gan Rhodri Glyn Thomas AC.
Bydd cyfres o welliannau yn cael eu cyflwyno gan yr Aelodau Cynulliad, Suzy Davies ac Aled Roberts cyn pleidleisio’n derfynol ar y Bil.
Cymdeithas yr Iaith
Yn ei blog ar Golwg360, mae llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith, Sian Howys wedi galw ar Aelodau’r Cynulliad i ddangos esiampl i sefydliadau eraill yng Nghymru o ran y Gymraeg.
“Y cwestiwn sylfaenol sydd yn wynebu Aelodau Cynulliad felly yw: a ydyn nhw am adfer addewid datganoli a gosod y Gymraeg yn ganolog i’w holl weithredoedd, neu ei gadael ar yr ymylon?
“Yn anffodus, rydyn ni wedi clywed rhai gwleidyddion yn dadlau bod y Gymraeg yn rhy gostus, rhai nad wyf erioed wedi eu clywed yn cwestiynu cost cynnal democratiaeth trwy gyfrwng y Saesneg.”
Pleidlais rydd
Ychwanegodd fod Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Aelodau’r Cynulliad bleidleisio fel unigolion heddiw yn hytrach na phleidleisio fel grŵp.
“Rydym wedi gofyn hynny gan fod Aelod Cynulliad o bob plaid yn rheoli Comisiwn y Cynulliad, a gan fod y Gymraeg yn bwysicach na gwleidyddiaeth bleidiol arferol. Mae’r Gymraeg – ei chefnogwyr, ei defnyddwyr a’i dysgwyr – yn haeddu trafodaeth agored a rhydd am y materion hyn heddiw.”