Castell Aberteifi
Mae cyfarwyddwr Castell Aberteifi, Steffan Crosby wedi gadael ei swydd ar ôl pedwar mis.
Swyddog Cyllid y castell, Cris Tomos fydd yn cymryd ei le dros dro.
Mae disgwyl i brosiect Ymddiriedolaeth Cadwgan orffen y gwaith o adnewyddu’r castell erbyn 2014.
Dywedodd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth eu bod yn drist o weld Steffan Crosby yn gadael.
“Dymunwn yn dda iddo yn y dyfodol.
“Mae gennym bob hyder yn Cris a thîm y castell y gallen nhw barhau gyda’r gwaith da sydd eisoes wedi dechrau.”
Mae Cadwgan yn cydweithio â Chyngor Sir Ceredigion ar y prosiect.
Dywedodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu’r cynnydd a wnaed eisoes wrth symud prosiect Castell Aberteifi yn ei flaen.
“Byddwn yn parhau i gefnogi Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan yn ei holl waith a’i ymdrechion presennol i recriwtio cyfarwyddwr newydd.”