Emma Jones
Mae achos dynes sy’n cael ei chyhuddo o lofruddio mam ifanc yng Ngwynedd wedi dechrau yn Llys y Goron Caernarfon heddiw.

Mae Alwen Eluned Jones, 23, o Ger y Llan, Lanllyfni, yn gwadu llofruddio Emma Jones, 31, o Benygroes ar 10 Rhagfyr y llynedd.

Heddiw dywedodd yr erlynydd Ian Murphy fod “hwn yn achos trasig gyda goblygiadau trasig i lawer o bobol.”

Dywedodd yr erlynydd fod Alwen Jones wedi arfogi ei hun gyda chyllell cyn mynd i fflat Emma Jones yn dilyn dadl rhwng chwaer Alwen Jones ac Emma Jones.

Dywedodd fod Alwen Jones wedi “colli ei hun” ac wedi trywanu Emma Jones.

Mae Alwen Jones yn gwadu’r cyhuddiad ac mae’r achos yn parhau yfory.

Roedd ffrindiau Emma Jones wedi sefydlu cronfa apêl i helpu i dalu am gostau ei hangladd, ac i helpu i gynnal ei mab 11 oed, Llŷr Aled.