Mae’n fis ers i ddwy sir o Gymru dorri’n rhydd o Glybiau Ffermwyr Ifanc Lloegr a Chymru,  a dywed  un ohonyn nhw fod pethau’n “haws” bellach.

Ym mis Mehefin, Eryri ac Ynys Môn oedd yr unig siroedd allan o 12 yng Nghymru i bleidleisio o blaid talu eu harian aelodaeth yn syth i swyddfa Cymru yn Llanelwedd, yn hytrach nag anfon yr arian i Loegr, gan ddadlau nad oedden nhw’n gwneud digon o ddefnydd o wasanaethau Ffederasiwn Lloegr-Cymru.

“Dach chi ddim yn talu am ffrog mewn  siop ac yna’n cerdded allan hebddi,” meddai trefnydd clybiau Eryri, Eleri Evans.

“Doedd y penderfyniad yn ddim i wneud hefo iaith neu genedlaetholdeb, doedd jyst ddim pwynt anfon arian i Loegr a ninnau ddim yn cael manteision yn ôl,” meddai Eleri Evans.

Dywedodd hi fod hi’n haws anfon un siec aelodaeth i swyddfa Cymru a mynnodd ei bod hi fyny i’r siroedd eraill wneud eu penderfyniad eu hunain ar y mater.

Cadeirydd Cenedlaethol

Dywedodd Cadeirydd CFfI Cymru, Dylan Jones, fod siroedd eraill yn edrych ar drywydd Eryri ac Ynys Môn a’i bod hi’n bosibl y bydd gan Gymru Ffederasiwn annibynnol yn y dyfodol.

“Mae’n bosib y bydden ni’n well bant yn annibynnol ond bydd cyfrifoldebau ynghlwm wrth hynna mewn meysydd fel polisi.

“Rwy’n falch o ddweud fod lot o drafod wedi bod ar y pwnc yma ac mae’r siroedd wedi pwyso a mesur y manteision yn fanwl.

“Mae’r ffaith fod amaeth wedi cael ei ddatganoli yn ddadl gref o blaid cael Ffederasiwn i Gymru ond rwy’n gallu gweld y budd o fod yn rhan o fudiad ehangach hefyd.”

Mae cynhadledd CFfI Cymru yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn ble bydd Dylan Jones yn ildio’r Gadeiryddiaeth i’r is-gadeirydd presennol – Gwenno Griffith o Eryri.