Elin Jones - CAP yn hanfodol
Fe fydd economi cefn gwlad Cymru’n cael ei chwalu a llawer o ffermwyr Cymru’n mynd i’r wal os bydd Llywodraeth Prydain yn llwyddo i dorri’r grantiau amaeth o Ewrop.

Fe gafodd Elin Jones gyfarfod ddoe gyda chynrychiolwyr o lywodraethau Prydain a’r Alban a Gogledd Iwerddon gan ddadlau bod grantiau’r Polisi Amaeth Cyffredin yn hanfodol i Gymru.

Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw am doriadau mawr yn y taliadau yn ystod y blynyddoedd nesa’.

Dadlau gyda DEFRA

Y mis diwetha’ roedd llywodraethau’r tair gwlad wedi anfon papur polisi at DEFRA, yr Adran Amaeth yn Llundain, yn dweud bod angen sicrhau arian teg i ffermwyr a’r gallu i ymateb i anghenion lleol.

Ddoe, fe gawson nhw gyfle pellach i ddadlau’r pwynt mewn cyfarfod ym Mrwsel yn ystod cyfarfod o weinidogion amaeth yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae CAP [y Polisi Amaeth Cyffredin] yn hanfodol i Gymru – nid dim ond i ffermwyr sy’n cael grantiau ond i wneuthuriad cefn gwlad Cymru ac i barhad ein gallu i gynhyrchu bwyd,” meddai Elin Jones wedyn.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i ddadlau tros doriadau mawr yng nghyllid CAP yn ystod y blynyddoedd nesa’.”

‘Methu talu’u ffordd’

“Heb y grantiau hyn, fydd llawer o fusnesau amaethyddol Cymru ddim yn gallu talu’r ffordd,” meddai Elin Jones.

“Yn ogystal â chynnal y busnesau hynny, mae’r arian hefyd yn cadw cannoedd o bobol mewn gwaith ac yn treiddio i’r gymuned ehangach, yn siopau, chaffis ac eraill sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethau.”

Mae ffermydd Cymru’n derbyn cyfanswm o £360 miliwn y flwyddyn o arian Ewrop ac mae un grant – y Taliad Sengl – yn 80% neu 90% o incwm busnesau amaethyddol yng Nghymru.