Mae un o gynghorwyr Llais Gwynedd wedi ei wahardd o’i waith, a hynny flwyddyn ers iddo gael ei wahardd am fis.

Ni fydd Aeron Jones yn cael galw ei hun yn gynghorydd Gwynedd nac yn derbyn cyflog am dri mis.

Ond mae wedi dweud wrth golwg360 ei fod am apelio yn erbyn penderfyniad y Panel Disgyblu i’w wahardd ddydd Mercher.

Bu Ombwdsman Cymru yn ymchwilio wedi i’r blogiwr Cai Larsen o Blaid Cymru gwyno am sylw ar flog Aeron Jones.

Ym mis Gorffennaf y llynedd roedd Aeron Jones wedi sgwennu’r frawddeg ganlynol am Cai Larsen: ‘Mae wrth gwrs yn edrych ar ymddeol mewn ychydig ac felly tybiwn mai hynny yw ei brif darged, cyn fuaswn yn meddwl mynd am sedd Ioan Thomas yn y Cyngor’.

Fe gwynodd Cai Larsen nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ymddeol a sefyll etholiad yn erbyn y Cynghorydd Ioan Thomas, a bod honiadau o’r fath yn niweidiol i’w yrfa’n brifathro ac i’w gyfeillgarwch agos gyda’r Cynghorydd Ioan Thomas.

Daeth yr Ombwdsman i’r casgliad fod Aeron Jones wedi torri Côd Ymddygiad Cynghorwyr Cyngor Gwynedd.

Apêl ar y gorwel

Mae Aeron Jones yn teimlo fod y ddedfryd yn rhy llawdrwm, ac mae’n cwestiynu’r broses hefyd.

“Ar y mwyaf ddylan nhw fod wedi gofyn i mi sgwennu llythyr yn ymddiheuro,” meddai cyn honni ei bod yn annheg bod un aelod etholedig ar y Panel Disgyblu yn gynghorydd Plaid Cymru.

“Mi fasa Plaid Cymru’r cyntaf i gwyno tasa cynghorwyr Llafur ar Banel Disgyblu yn rhywle fel Abertawe, yn cael disgyblu aelod o Blaid Cymru.

“Mi fydda i bendant yn apelio.”

Ond mae Cyngor Gwynedd wedi dweud bod “cyfansoddiad y Pwyllgor Safonau yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau perthnasol.

“Penodir aelodau Cyngor Gwynedd ar y Pwyllgor gan gyfarfod o’r Cyngor Llawn, sy’n penodi ar sail y meini prawf sydd wedi eu pennu gan y Cyngor (nid ar sail cydbwysedd gwleidyddol).”

Blwyddyn ers y ban diwetha’

Flwyddyn yn ôl mi gafodd Aeron Jones ei wahardd am fis a’i siarsio i sgwennu llythyr yn ymddiheuro ar ôl cyflwyno gwybodaeth ddi-sail ar ei flog.

Roedd wedi honni fod Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd a swyddogion eraill wedi hedfan gyda’r Arweinydd Dyfed Edwards i Gaerdydd i gyfarfod yr Aelod Cynulliad Alun Ffred Jones a thrafod cyllid, er nad oedd hyn yn wir.