Prif adeilad Prifysgol Abertawe
Mae un o benaethiaid Prifysgol Abertawe wedi dweud wrth golwg360 y gallai cynlluniau Llywodraeth Prydain i gyfyngu ar fisas i fyfyrwyr tramor gael “effaith negyddol” ar y Brifysgol.

Roedd peryg y byddai myfyrwyr dilys yn “gyndyn o astudio” yn ôl yr Athro Alan Speight, Dirprwy Is Ganghellor y Brifysgol.

Er ei fod yn deall awydd y Llywodraeth i reoli mewnfudo roedd yn erbyn y bwriad i gyfyngu ar fisas i fyfyrwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Drwg ariannol

Fe fyddai hynny’n gwneud drwg hefyd i sefyllfa ariannol y Brifysgol ac i’r amrywiaeth cymdeithasol a diwylliannol yno, meddai.

“Byddai gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn dod ar adeg heriol iawn pan mae holl brifysgolion y Deyrnas Unedig yn wynebu gostyngiad mewn buddsoddiad cyhoeddus o ganlyniad i’r sefyllfa ariannol,” meddai  Alan Speight wrth Golwg360.

“Yn yr un modd, yn achos cwymp sydyn yn y nifer y myfyrwyr rhyngwladol, byddai sgîl-effaith ar yr economi leol a rhanbarthol.”