Mae ffermwyr wedi cael rhybudd i fod ar eu gwyliadwraeth ar ôl i olion o’r firws Schmallenberg (SBV) gael ei ddarganfod mewn gwartheg ar fferm yng Ngheredigion.

Dywed Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) bod y datblygiad yn “bryderus iawn”. Mae’n debyg bod y tair buwch a’r llo wedi cael eu heintio tra ar y fferm, hyd at flwyddyn yn ôl.

Mae cadeirydd pwyllgor iechyd a lles anifeiliaid yr FUW, Catherine Nakielny, wedi rhybuddio ffermwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth am unrhyw abnormalrwydd mewn wyn sy’n cael eu geni, ac i gysylltu â milfeddyg os oes unrhyw beth anarferol.

Nid yw’n annisgwyl bod y firws yn bresennol yng Nghymru. Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA), Llywodraeth Cymru a’r Grŵp Llywio Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi bod yn cadw golwg ar y sefyllfa ers i’r firws ymddangos ym Mhrydain tua diwedd 2011.

Ym mis Gorffennaf eleni, roedd 275 o ffermydd yn y DU wedi cael prawf positif am SBV. O’r rheiny roedd 53 mewn gwartheg, 219 mewn defaid, a thri achos mewn defaid a gwartheg.

Mae’n bosib y gall gwybed barhau i ledaenu’r firws yn ystod yr hydref a’r gaeaf ond mae’r FUW yn gobeithio y bydd y tywydd gwael dros yr haf wedi lleihau’r risg.