Bydd cynghorwyr ym Mhowys yn trafod tri chais am ffermydd gwynt heddiw, ac mae disgwyl i nifer o brotestiadau gael eu cynnal.
Mae’r ceisiadau wedi cael eu cyflwyno i godi ffermydd gwynt yn Llanbrynmair, Llaithdu a Llandinam.
Bydd cyfarfod cyngor Powys heddiw yn cael ei ddarlledu ar y we, ond bydd y penderfyniad terfynol yn nwylo Llywodraeth Prydain gan fod disgwyl cynhyrchu mwy na 50 megawatt o ynni.
Mae protestiadau sylweddol wedi cael eu cynnal yn y sir yn y gorffennol, ac roedd 1,500 o bobl yn y Senedd ym Mae Caerdydd y llynedd i wrthwynebu’r cynlluniau, sy’n cynnwys adeiladu peilonau ar 10 fferm wynt.
Bydd is-orsaf yn cael ei chodi yng Nghefn Coch ger Llanfair Caereinion.
Mae disgwyl ymateb gan gabinet y cyngor y prynhawn yma.
Mae ceisiadau blaenorol yn Llawryglyn, Llanbadarn Fynydd a Charnedd Wen eisoes wedi cael eu gwrthod.