Mae Cymru yn dal ei gafael ar record nofiad noeth Llyfr Guinness ar ôl i ymgais yn Swydd Efrog fethu â churo’r record gafodd ei osod ym Mhenrhyn Gŵyr.

Tua 150 o nofwyr porcyn a aeth i’r dŵr ddoe ym Mae Druridge, oedd yn sylweddol brin o’r 413 o bobol a dynnodd eu dillad er mwyn ymdrochi yn y môr ar draeth Rhosili ym mis Mehefin y llynedd.

Er yn brin o’r nod roedd nofwyr noeth Swydd Efrog wedi llwyddo i godi dros £2,000 tuag at elusen Mind.