Mae David Cameron wedi bod yn trafod cynnig gwerth £28 biliwn i uno cwmnïau BAE Systems a EADS gyda Ffrainc a’r Almaen.

Mae EADS yn berchen cwmni Airbus sy’n cyflogi 6,500 o weithwyr ym Mrychdyn yn Sir y Fflint

Bu’r Prif Weinidog yn trafod y cynllun gyda’r Arlywydd Francois Hollande y bore ma ar ôl cael sgwrs gyda Changhellor yr Almaen Angela Merkel nos Wener, meddai Downing Street.

Mae’n rhaid i’r cwmnïau gael sêl bendith y tair llywodraeth yn Llundain, Paris a Berlin cyn bwrw mlaen gyda’r cynllun i uno. Mae gan Lywodraeth Prydain yr hawl i atal BAE rhag uno neu gael ei gymryd drosodd gan gwmni arall.

Dywed BAE y byddai uno gyda EADS yn creu cwmni “awyrofod, diogelwch ac amddiffyn o safon fyd-eang”, gyda gwerthiant ar y cyd o £60 miliwn a tua 220,000 o weithwyr. Fe fyddai’r grŵp yn cyflogi 48,000 yn y DU.

Petai’r cwmnïau’n uno byddai 40% o’r cwmni yn berchen i gyfranddalwyr BAE a 60% yn berchen i gyfranddalwyr EADS.

Mae gan y ddau gwmni hyd at 10 Hydref i gwblhau’r trefniant ond mae ’na ddyfalu y byddan nhw’n gofyn am estyniad i’r terfyn amser.

Mae’n debyg nad yw’r Prif Weinidog wedi trafod y mater gyda’r Arlywydd Barack Obama hyd yn hyn ond deellir bod Washington yn dangos diddordeb yn y cynllun oherwydd cysylltiad BAE gyda phrosiectau amddiffyn yr UDA.