Gorsaf Heddl De Cymru yng Nghaerdydd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth sydyn  dyn 30 oed o Laneirwg ger Caerdydd.

Fe gafodd James Way ei gludo’n anymwybodol i Ysbyty Prifysgol  Cymru toc wedi 9 fore ddoe  a bu farw yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty.

Mae dyn 43 oed o Fynachdy, Caerdydd, yn cael ei holi ynglŷn â’r digwyddiad ac mae’r heddlu’n dweud eu bod yn ceisio ffeindio mwy am gweryl a fu mewn adeilad yn ardal Ffordd Holmesdale yn Grangetown yn gynnar nos Sadwrn.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau o James Way a fu farw yn yr ysbyty ddydd Sul,” meddai’r Heddlu.

“R’yn ni’n gwybod fod James wedi mynd i fflat yn Windsor Court, Ffordd Holmesdale, rywbryd brynhawn Sadwrn lle gallai fod wedi bod mewn ffrae.

“R’yn ni’n apelio ar unrhyw un sy’n gwybod lle’r oedd James Way rhwng 10am a 7pm ddydd Sadwrn i gysylltu â’r Heddlu ar 02920 571 530 neu gysylltu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.”