Mae un o’r cwmnïau gafodd eu targedu dros yr haf yn ymgyrch y ffermwyr llaeth am brisiau uwch wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw am dalu mwy i ffermwyr am laeth.

Bydd Dairy Crest yn talu 29c y litr ar gontractau am laeth o Dachwedd 1 ymlaen. Mae’r cynnydd o dair ceiniog yn golygu fod prisiau yn uwch nawr nag ym mis Mai pan ddechreuodd prisiau llaeth ddisgyn, gan arwain at brotestiadau gan ffermwyr.

Cynhaliodd ffermwyr llaeth flocâd ym mis Gorffennaf yn safleoedd Dairy Crest yn Swydd Derby a Swydd Gaerloyw wrth i undebau ffermwyr ddadlau ei bod hi’n costio mwy i rai ffermwyr gynhyrchu llaeth nag oedden nhw’n ei gael am ei werthu.

Mae Dairy Crest yn cyflenwi tua 15% o laeth Prydain ac yn cynhyrchu caws Cathedral City a menyn Country Life.  Mae 1,000 o ffermwyr llaeth yn cyflenwi llaeth i’r cwmni.

Ddydd Gwener cyhoeddodd Tesco eu bod nhw am dalu mwy i ffermwyr am laeth. Bydd tua 700 o ffermwyr yn derbyn hyd at 31.58c y litr o Hydref 1 ymlaen, sy’n gynnydd o ddwy geiniog.