Mae tair Pwyles sydd wedi treulio’r haf yn swyddfa Golwg yn Llambed yn dychwelyd i Wlad Pŵyl.

Mae Marta Klonowska, Asia Rybelska a Kinga Uszko yn fyfyrwyr ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn ninas Poznan ac fel rhan o’u cwrs, cawson nhw’r cyfle i dreulio tri mis yn gweithio i gwmni Cymraeg i gael blas ar yr iaith.

Kinga

Mae Kinga Uszko yn ymddiddori yn y Gymraeg a’r Wyddeleg ac ar ôl graddio mewn Astudiaethau Celtaidd, mae hi bellach yn dilyn cwrs MA mewn enwau Cymraeg a Phwyleg.

Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y Mabinogi a thafodieithoedd, ac mae hi’n gadeirydd ar Gymdeithas Geltaidd y brifysgol.

Mae hi’n anelu at lunio geiriadur Cymraeg i Bwyleg, “heb air o Saesneg”.

Marta

Llenyddiaeth a cherddoriaeth yw prif ddiddordebau Marta ac mae ei bryd ar fod yn gyfieithydd.

Mae hi wrth ei bodd yn cyfieithu barddoniaeth o’r Gymraeg i’r Bwyleg ac o’r Bwyleg i’r Gymraeg.

Bu’n astudio’r Gymraeg fel rhan o’i chwrs Astudiaethau Celtaidd ers pedair blynedd.

Asia

Llenyddiaeth yw prif ddiddordeb Asia hefyd, yn enwedig nofelau ffantasi a’r ffug-wyddonol.

Ei hoff awduron yn y Gymraeg yw Angharad Tomos a Fflur Dafydd, ac mae hi wedi gosod her iddi hi ei hun i gyfieithu ‘Y Llyfrgell’ i’r Bwyleg.

Cysylltu â Golwg

Dywedodd Prif Weithredwr Golwg360, Owain Schiavone: “Cysylltiad gydag eu darlithydd Cymraeg, Awen Schiavone (sydd wedi sgwennu colofn ‘Pobol a Diwylliant’ yn Golwg yr wythnos hon) agorodd y drws.

“Roedd dwy o’i myfyrwyr yn awyddus i dreulio cyfnod yng Nghymru i wella eu sgiliau iaith, ac roedden nhw wedi clywed am gynllun posib i helpu ariannu eu cyfnod yma.

“I gydymffurfio â chanllawiau’r cynllun, roedd angen iddynt ffeindio cwmni yng Nghymru i ddod atyn nhw ar brofiad gwaith, a gan wybod fy mod i’n gweithio i Golwg360 fe wnaethon nhw holi i weld a fyddai Golwg yn ystyried eu derbyn.

“Gan ein bod ni’n awyddus i gefnogi’r myfyrwyr brwdfrydig, ac yn credu y gallen nhw gyfrannu cynnwys difyr i’n cyhoeddiadau dyma gytuno ac fe wnaethon nhw gyrraedd ddechrau Gorffennaf am gyfnod o dri mis.”

Mae’r tair wedi bod wrthi yn y tri mis diwethaf yn ysgrifennu blogiau, adolygiadau ac amryw erthyglau i Golwg360.

Maen nhw hefyd wedi cael y cyfle i gyfrannu i Golwg a Lingo Newydd.

Ychwanegodd Owain Schiavone: “Maen nhw hefyd wedi cael cyfle i fynychu nifer o ddigwyddiadau diwylliannol Cymreig, gan gynnwys Gŵyl Gwydir, Gig 50 a’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Roedden nhw’n arbennig o falch o fod yn y Pafiliwn i weld Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth, yn cipio cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.”

Roedd eitem ar y merched ar raglen Heno ar S4C nos Fercher – gallwch wylio eto ar Clic.