Mae Twitter wedi hysbysebu am gyfieithwyr i helpu gyda’r gwaith o gyfieithu rhyngwyneb y wefan gymdeithasol i’r Gymraeg.

Y Gymraeg yw’r iaith leiafrifol Ewropeaidd ddiweddaraf i gael rhyngwyneb newydd.

Mae’r Fasgeg a’r Gatalaneg eisoes wedi cael rhyngwyneb newydd.

Dywedodd yr arbenigwr technolegol a’r blogiwr Rhodri ap Dyfrig: “Mae yna bwysau wedi bod am hyn ers tipyn. Does yna ddim amserlen ar gyfer y gwaith ar hyn o bryd ond mae’n grêt ei fod e’n digwydd.

“Rwy’n siŵr y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio ac mae ei gael e yn Gymraeg yn bwysig iawn.

“Ond mae’n bwysicach cyfathrebu yn Gymraeg na chael rhyngwyneb.”

Presenoldeb yr iaith

Hwn yw’r cam diweddaraf yn y broses o sicrhau bod presenoldeb i’r Gymraeg ar wefannau cymdeithasol.

Mae rhyngwyneb Cymraeg eisoes ar gael ar Facebook, ar ôl i gannoedd o wirfoddolwyr fynd ati i gyfieithu’r prif dudalennau a phleidleisio am yr ymadroddion gorau a gafodd eu cynnig.

Eisoes, mae yna bobl ar y wefan yn trydar yng Ngalisieg fod y Gymraeg yn un o’r ieithoedd sydd wedi cael eu dewis ar gyfer rhyngwyneb newydd.

Dywedodd y gîc technoleg Gymraeg o Lundain sy’n blogio i Golwg360, Bryn Salisbury: “Mae pobl yn mynd i weld bod yr iaith ar gael ar wefannau cymdeithasol.

“Mae’n dangos bod yna gymuned o bobl sy’n barod i ddefnyddio’r iaith a gall hynny ond bod yn beth da.”

Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion heddiw.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n newyddion gwych. Mae nifer o’n haelodau a chefnogwyr wedi bod yn annog Twitter i alluogi gwasanaeth Cymraeg ers tro. Nawr mae angen cymaint o bobl â phosib i helpu cyfieithu’r derminoleg i’r Gymraeg fel bod y gwasanaeth yn rhedeg cyn gynted â phosib.

“Os yw’r Gymraeg i fyw, mae rhaid sicrhau ei bod yn weledol ym mhob rhan o’n bywydau. Rydyn fel mudiad wedi gweld awydd pobl i gyfrannu i ddatblygiadau ar-lein drwy ein gwasanaeth teledu ar-lein, sianel62.com; byddwn ni’n parhau i annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg arlein.”