Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol heddiw’n lansio ei gynllun academaidd cyntaf.

Yn ôl Deon y Coleg, Dr Hefin Jones, mae hi’n “garreg filltir hanesyddol” a fydd yn  sicrhau cyfleoedd astudio eang i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg.

“Bydd y Cynllun yn sail i’r holl waith academaidd a wneir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth â’r sector addysg uwch yng Nghymru tan 2016/17,” meddai Hefin Jones.

Yn y flwyddyn ddiwethaf mae’r Coleg wedi sefydlu canghennau mewn wyth o brifysgolion yng Nghymru er mwyn datblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg, a bwriad y Coleg yw penodi dros 120 o ddarlithwyr newydd erbyn 2016. Mae 60 wedi cael eu penodi hyd yn hyn.

Nid pawb sydd wedi bod yn ganmoliaethus am ddechreuad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fis diwethaf  dywedodd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis, fod yr hen sefydliadau Addysg Uwch wedi trin y Coleg Cymraeg gyda “dirmyg” a heb godi ymwybyddiaeth o’i fodolaeth, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi ffurfio corff o ‘Gyfarwyddwyr Cysgodol’ er mwyn monitro gwaith y Coleg.

Gweinidog Addysg

Un a fydd yn y lansiad heddiw yw’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews.

“Mae’r Coleg wedi gwneud cynnydd sylweddol ers ei sefydlu’r llynedd,” meddai.

“Lansio’r cynllun academaidd cenedlaethol hwn yw’r cam nesaf yn y gwaith o greu sail gynaliadwy ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg helaeth o’r safon uchaf ar draws ein holl brifysgolion.

“Bydd y strategaeth hon yn datblygu myfyrwyr o’r adeg y byddan nhw’n cychwyn ar eu hastudiaethau addysg uwch i’r adeg y byddan nhw’n gwneud ceisiadau am swyddi yn y gyrfaoedd a ddewisir ganddyn nhw,” meddai Leighton Andrews.