Mae dyn yn dal i gael ei holi gan Heddlu Gogledd Cymru ar amheuaeth o ddwyn deunydd ffrwydrol.

Fe ddaeth heddlu o hyd i’r offer ar ôl mynd i dŷ yn Ninbych tua phedwar o’r gloch brynhawn Sadwrn.

Fe gafodd dyn 52 oed ei gymryd i’r ddalfa ac, ar y pryd, roedd yr heddlu’n pwysleisio nad oedd cysylltiad gyda neb arall.

Ar y pryd, roedden nhw’n sôn am ffrwydron oedd wedi eu dwyn; erbyn hyn, maen nhw wedi meddiannu rhywfaint o ddeunydd ffrwydrol masnachol hefyd.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd unrhyw gysylltiad gyda therfysgaeth ac nad oedd y cyhoedd wedi bod mewn peryg.