Logo'r clwb nos (o'u safle Facebook)
Mae Heddlu De Cymru’n chwilio am ymosodwr ar ôl i ddyn golli darn o’i glust.

Maen nhw’n gofyn am wybodaeth am y digwyddiad yng nghlwb nos Streets ym Mhorthcawl ym Mro Morgannwg yn oriau mân bore Sadwrn.

Fe fu’n rhaid cludo dyn i’r ysbyty ar ôl i rywun arall ymosod arno a brathu darn o’i glust ymaith.

Yn ôl yr heddlu, doedd dim rheswm amlwg am yr ymosodiad ac maen nhw’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn y clwb ac a welodd y digwyddiad.

Y rhifau cyswllt yw CID Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 679518 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.