Mererid Hopwood
Mae angen i Gymru rydd fod yn fwy na gwlad gyda’r hawl i lywodraethu ei hunan – rhaid iddi hefyd gael math gwahanol o wleidyddiaeth ag ymwrthod â rhyfel a thrais.

Dyna oedd rhan o neges y bardd Mererid Hopwood wrth iddi draddodi’r ddarlith gynta’ i nodi Diwrnod Owain Glyndŵr yn Galeri Caernarfon.

Fe rybuddiodd rhag mabwysiadu ffyrdd pobl eraill o feddwl a derbyn yr un patrymau sy’n rhan o ddull llywodraeth y Deyrnas Unedig a rhag i gyfieithu dogfennau droi’n gyfieithu ffordd o feddwl hefyd.

Roedd angen seilio democratiaeth yng Nghymru ar gydymdrech a chydgyfrifoldeb, meddai, wrth gyfeirio’n eang at weithiau o fyd celfyddyd a llenyddiaeth.

Apêl yn erbyn rhyfel a thrais

Roedd rhai o sylwadau cryfa’r ddarlith yn condemnio’r defnydd o dir Cymru ar gyfer ymarfer rhyfel ac yn arbennig y safle i arbrofi ar awyrennau di-beilot yn Aberporth.

“Adar angau” oedd y rheiny, meddai Mererid Hopwood, gan ddweud ein bod yn “llywaeth” i ganiatáu i’r fath bethau ddigwydd.

Roedd y sylwadau hynny’n rhan o apêl ehangach  tros ymwrthod â thrais a rhyfel ac fe soniodd fod 2012 yn flwyddyn i gofio tri heddychwr mawr – Gwynfor Evans, Henry Richard a Waldo Williams.

“Mae rhyddid yn ymwneud â shwt ’yn ni’n rheoli ein hunain,” meddai. “Mae’n golygu byw yn waraidd heb ormes.

“Mae bod yn rhydd yn golygu ein bod yn rhydd o drais ac o fynegiant o drais. Ddyle dim bod sarnu gwaed tros ryddid; nid rhyddid go iawn fyddai hwnnw.”