Daeth miloedd o bobl i Fae Caerdydd brynhawn ddoe i wylio tua 40 o athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn gorymdeithio trwy ran o’r brifddinas ac i lawr i’r bae er mwyn dathlu eu llwyddiant yn gemau Llundain yn ddiweddar.

Cynhaliwyd derbyniad yn y Senedd cyn i’r athletwyr ymddangos ar lwyfan y tu allan yn gynnar gyda’r nos i dderbyn lllongyfarchiadau’r dorf.

Ymhlith yr athletwyr oedd Jade Jones o’r Fflint, a enillodd fedal aur yn y Tae Kwon Do, Tom James y rhwyfwr, Marc Colbourne a enillodd dair medal Baralympaidd ar ei feic, ac Aled Siôn Davies, a enillodd fedal aur am daflu’r ddisgen yn y Gemau Paralympaidd.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler fod llwyddiant yr athletwyr “wedi rhoi hwb i Gymru”.

“Mae eu hymroddiad, eu disgyblaeth a’u penderfyniad wedi bod yn ysbrydoliaeth inni gyd,” meddai.

Fe enilliodd athletwyr Cymru fwy o fedalau na gwledydd fel Yr Ariannin, De Affrica ac India.

Roedd rhai o’r gwirfoddolwyr a chludwyr y fflam Olympaidd hefyd wedi cael gwahoddiad i ddod i wylio’r orymdaith.

Dylid darlledu rhagor o chwaraeon merched

Yn y cyfamser mae Ysgrifennydd Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan, Maria Miller wedi ysgrifennu at ddarlledwyr yn eu hannog i ddarlledu rhagor o chwaraeon merched o hyn allan.

Dywedodd bod ahtletwyr fel Jessica Ennis ac Ellie Simmonds, sy’n byw yn Abertawe, yn batrwm gwych i ferched a bod y gemau diweddar wedi profi bod y cyhoedd eisiau gweld rhagor o gystadleaethau merched.

Mae Maria Miller hefyd yn Weinidog Merched a Chydraddoldeb.

Protest

Cynhaliwyd protest yn ystod y dathliadau wedi i chwech o bobl ddringo i fyny sgaffaldiau ar adeilad Pierhead.

Roeddyn nhw’n protestio yn erbyn un o cwmni Atos, un o noddwyr y gemau. Mae’r cwmni yn gyfrifol am asesu yr anabl ar gyfer gweithio ar ran LLywodraeth San Steffan.