Cerflun o Owain Glyndwr yng Nghorwen
Mae un o gynghorwyr tref Machynlleth wedi dweud fod y cyngor tref wedi ymateb yn fyrbwyll trwy wrthod cefnogi datblygu Canolfan Owain Glyndŵr yn y dref.

Roedden nhw wedi gwrthod cefnogi cynllun i greu Canolfan Genedlaethol Owain Glyndwr ar safle Senedd y tywysog gan fod clwb snwcer ar y safle ar hyn o bryd.

Yn ei cholofn yn Golwg yr wythos hon fe ddywedodd Angharad Mair fod cynghorwyr y dre wedi dangos “agwedd hil-bili-aidd plwyfol a chul”.

Dywedodd un o gynghorwyr y dre, Glenda Jenkins, wrth golwg360 fod y cyngor “heb gasglu digon o wybodaeth am y datblygiad cyn gwneud ei benderfyniad”.

Ychwanegodd nad oedd yn y cyfarfod pan fu pleidlais, ei bod hi’n bwriadu codi’r mater yn y cyfarfod nesaf a bod y datblygiad yn “sicr o ddod â budd i Fachynlleth”.

Yn ei cholofn, awgrymoddd Angharad Mair fod penderfyniad y cynghorwyr yn “ganlyniad trasig yr anwybyddu parhaus o hanes Cymru”.

‘Cyfle anferthol i roi hwb i Fachynlleth’

Dywedodd cynghorydd sir sydd hefyd yn eistedd ar gyngor y dre, Michael Williams, ei fod yntau hefyd yn gefnogol i greu Canolfan Owain Glyndwr ac y byddai’r ganolfan a’r clwb snwcer ar eu hennill o barhau gyda’r datblygiad.

“Dyma gyfle anferthol i roi hwb i economi Machynlleth ac i glodfori dyn sydd o bwys mawr yn hanes Cymru, Prydain ac Ewrop,” meddai’r Cynghorydd Michael Williams.

“Ddylwn ni ddim colli’r cyfle yma i ddatblygu canolfan a diogelu dyfodol y clwb snwcer ar yr un pryd.

“Ond dwi ddim am feirniadu pleidlais ddemocrataidd Cyngor Tref Machynlleth, “ ychwanegodd.

Mae disgwyl i gynrychiolydd o bwyllgor Canolfan Glyndŵr wneud cyflwyniad i gynghorwyr tref Machynlleth er mwyn rhoi mwy o wybodaeth iddyn nhw am y datblygiad.