Cafodd cyngerdd arbennig ei gynnal yn y Pwll Mawr ym Mlaenafon heddiw i goffáu glowyr sydd wedi colli eu bywydau yn y pyllau glo.

Ddydd Sadwrn, bydd hi’n flwyddyn union ers colli pedwar o lowyr ym mhwll y Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe.

Cafodd David Powell, Charles Breslin, Phillip Hill a Garry Jenkins eu lladd ar Fedi 15 y llynedd ar ol i’r pwll lenwi gyda dwr.

Cafodd y gyngerdd ei chynnal 300 troedfedd o dan y ddaear, gyda phiano yn cael ei gludo i lawr y pwll mewn cawell.

Cafodd y piano ei ddarparu gan gwmni Pianos Cymru, sydd wedi cydweithio â rhai o fawrion y byd cerddorol, gan gynnwys Jose Carreras, Jamie Cullum, Bryn Terfel, Michael Ball a Shirley Bassey.

Bu’r cerddorion Daniel a Laura Curtis yn perfformio yn y digwyddiad, a chyfansoddodd yr actor Boyd Clack gerdd yn arbennig ar gyfer y diwrnod.

Bu farw hen daid Daniel Curtis mewn damwain ym mhwll Senghennydd.

Dywedodd: “Rydw i wedi bod yn disgwyl am gyfle i gynnal cyngerdd yn Big Pit ers amser. Cysylltais â’r Amgueddfa gan obeithio na fydden nhw’n meddwl fy mod i’n wallgof! Diolch byth, nid dyma’r syniad mwyaf gwallgof iddyn nhw ei glywed ac mae’n wych ei fod yn mynd i ddigwydd.

“Cafodd fy hen daid ei ladd yng Nglofa Senghennydd ac roeddwn i am gynnal cyngerdd i’w gyfarch a chodi ymwybyddiaeth o bobl fu farw yn y pyllau. Roedd canu yn rhan bwysig o ddiwylliant a hanes y diwydiant, gyda nifer o lowyr yn aelodau o’u Côr Meibion lleol. Un o drasiedïau mwyaf Cymru a Phrydain yw’r nifer fawr o lowyr sydd wedi colli eu bywydau yn y pyllau dros y blynyddoedd.”

Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn bresennol yn y digwyddiad.

Dywedodd: “Mae hwn yn gyfle nid yn unig i gofio am y sawl fu farw o dan ddaear a’r sawl sydd wedi dioddef caledi yn sgil y diwydiant glofaol, ond hefyd i gofio am y diwylliant a gafodd ei ysbrydoli gan y cymunedau glofaol, eu ffordd o fyw a’r argraff y mae’r cymunedau glofaol yn parhau i gael ar fywyd yng Nghymru.”