Heddiw, mae rhaglen opera newydd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd gan yr Opera Cymraeg Cymru a Chanolfan Huggard ar gyfer pobol digartref yn y ddinas. Ond rhaglen opera gyda chic – a elwir yn ‘Streetwise Opera’.

Bydd yna weithdai sy’n para dwy awr bob wythnos gan gantorion proffesiynol, a bydd y rhain yn agored i’r bobol digartref sy’n defnyddio Canolfan Huggard neu asiantau digartref eraill yng Nghaerdydd.

Ni fydd angen clyweliad er mwyn canu ac actio.

“Dy’n ni methu aros i ddechrau’r rhaglen yng Nghymru,” meddai Matt Peacock, sylfaenydd Streetwise Opera.

“Mae’n fraint i gael cydweithio gyda mudiadau fel yr Opera Cenedlaethol a Chanolfan Huggard.

“Mae Cymru’n falch iawn o’u canu a’u diwylliant opera, felly mae dod a’n gwaith i Gaerdydd yn gyffrous iawn.”

Mae Streetwise Opera yn rhedeg 11 rhaglen mewn canolfannau i’r digartref ar draws Lloegr bob wythnos, a dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddod i Gaerdydd.

“Mae dod a gwaith anhygoel Streetwise Opera yn rhywbeth dw i wastad wedi eisiau gwneud ers oes,” meddai Rhian Hutchings, Cyfarwyddwr Opera Cenedlaethol Cymru.

“Dw i wrth fy modd bod y rhaglen yn dechrau o’r diwedd, ac y byddwn ni hefyd yn gweithio gyda Huggard, sydd â gweledigaeth gref a chynhwysol. Bydd y prosiect yma’n bwerus ac yn newid bywydau.”