Mae ymgyrch farchnata gan gwmni theatr i blant a phobol ifanc o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori am wobrau PR rhanbarthol y sefydliad CIPR.

I gwmni’r Fran Wen, sydd â swyddfa ym Mhorthaethwy, mae cyrraedd y rhest fer am eu hymgyrch farchnata i Fala Surion yng ngwobrau cysylltiadau cyhoeddus rhanbarthol y sefydliad CIPR yn “fraint”.

“Mae’n hynod galonnog i weld y celfyddydau yng Nghymru yn cael cydnabyddiaeth fel hyn,” meddai Malan Wilkinson, Swyddog Marchnata ac Ymgysylltu y Fran Wen.

“O’r cychwyn cyntaf, dw i’n credu bod ymgyrch Fala Surion wedi cydio yn nychymyg y cyhoedd – o’r pamffledi arogl afalau i’r sylw eang a roddwyd i themâu tywyll y gwaith.

“Roedd yr ymgyrch yn gyfle i dorri tir newydd a thynnu sylw at gynhyrchiad llawn emosiwn, delweddau trawiadol a hiwmor tywyll am fywyd pobol ifanc yn y Gymru drefol.”

Dyna oedd y tro cyntaf i Fresh Apples gan Rachel Trezise gael ei addasu ar gyfer  llwyfan a’i gyfieithu i’r Gymraeg.

“Cafodd Cwmni Fran Wen ymateb hynod gadarnhaol i’r cynhyrchiad gyda’n ffrydiau rhwydweithiau cymdeithasol yn llawn ymateb,” meddai Malan Wilkinson.

“Roedd amrywiol gyfeiriadau at y cynhyrchiad yn y wasg leol a chenedlaethol ar raglenni teledu, radio, mewn blogiau, cylchgronau cenedlaethol a phapurau newydd.”

Mae gweddill y cwmnïau sydd ar y rhest fer mewn amryw gategorïau i’w gweld fan hyn.

Llinos Dafydd