Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cysylltu ag Ysgrifennydd Cymru ar ôl i’r Comisiwn Etholiadol rybuddio y gall y papurau pleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu fod yn uniaith Saesneg.

Mae Meri Huws wedi bod yn siarad gyda David Jones “gan bwyso arno i gymryd bob cam posibl i sicrhau bod y Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg yn cael ei basio gan y Senedd yn San Steffan,” meddai llefarydd ar ran y Comisiynydd.

“Yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, deddfwriaeth sy’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, nid yw Comisiynydd y Gymraeg o’r farn y byddai’n briodol i’r etholiadau fynd rhagddynt yng Nghymru gyda ffurflenni pleidleisio uniaith,” meddai’r llefarydd.

Roedd nodyn briffio ddoe gan y Comisiwn Etholiadol yn dweud fod y Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg yn dal heb gael ei gwblhau, ac mai dim ond 16 diwrnod gwaith sydd gan y Senedd yn San Steffan er mwyn rhoi sêl bendith i’r Gorchymyn cyn y dyddiad cau.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi datgelu ei bod hi wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i holi “pa gamau a gymerwyd i sicrhau y bydd ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i’r Gymraeg yn nhrefniadau’r etholiad sydd i ddod” a’i bod hi eisoes wedi gweld drafft dwyieithog o ffurflenni’r etholiad.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi gofyn i’r Swyddfa Gartref gymryd camau i sicrhau y bydd teitlau Cymraeg a Saesneg ar Gomisiynwyr yr Heddlu yng Nghymru.

Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu yn cael eu cynnal ar 15 Tachwedd.