Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn i drafod cynlluniau i sefydlu rhagor o Ganolfannau Cymraeg mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn dal i dyfu.

Bydd y cyfarfod yn Abertawe yn trafod nifer o ganlyniadau adroddiad gan Heini Gruffudd a Steve Morris ar ran Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe.

Cafodd yr adroddiad ‘Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg’ ei gomisiynu gan y Senedd dros yr haf.

Ei neges oedd bod angen sefydlu canolfannau er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg drwy gynnig cyfleoedd i oedolion sydd wedi dysgu’r Gymraeg gymdeithasu gyda’i gilydd.

Mae tair canolfan eisoes yng Nghymru – Tŷ Tawe yn Abertawe, Popeth Cymraeg a Chanolfan Merthyr, gyda dwy ganolfan arall ar fin cael eu sefydlu yn Y Barri a Llanelli.

Bydd yna drafodaeth ar ddiwedd y cyfarfod i drafod y cam nesaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru, Aled Davies: “Mae cyfraniad dysgwyr y Gymraeg yn allweddol i unrhyw ymdrechion i gynnal a chynyddu defnydd o’r iaith.

“Dangosodd yr ymchwil yn glir bod Canolfannau Cymraeg yn helpu dysgwyr i ganfod cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith a chyfrannu tuag fywyd Cymraeg yr ardal.

“Trwy’r cyfarfod arbennig hwn, ein gobaith yw y gallwn gefnogi ymdrechion y rhai sy’n cynnal ac yn datblygu Canolfannau Cymraeg ar hyn o bryd ac ysgogi datblygiadau pellach mewn ardaloedd eraill.”