Y beics yn eu holl ogoniant
Tommie Collins sy’n paratoi ar gyfer y Tour of Britain…

Rydw i wedi treulio’n rhan fwyaf o’m bywyd yn dilyn a gwylio pêl-droed.  Serch hynny, yn ddiweddar, mae fy niddordeb mewn seiclo wedi bod ar gynnydd.

Pam? Does gen i ddim ateb pendant, ac rwy’n gwylio’r Tour de France a’r ‘Grand Tours’ eraill erioed.

Efallai mai rhan o’r ateb yw bod y Tour of Britain wedi i ail sefydlu ers 2004 ac yn cynyddu mewn maint bob blwyddyn.

Yn 2011 cefais y cyfle i wylio dechrau cymal Cymru yn y Trallwng.

Roeddwn i wedi gwirioni – yn cael cymysgu â sêr y byd seiclo a chael gweld y beics drud i gyd. Pornograffi beics oeddwn i yn ei alw!

Yna, fis Gorffennaf diwethaf, fe es i Ffrainc i wylio’r Tour de France. Wrth adael diwedd y cymal oedd yn gorffen yn Pau, mi welon ni’r peirianwyr yn golchi’r beics.

Wrth gwrs roedd rhaid stopio a mynd i fusnesu, ac fe gawson ni groeso brwd. Mor wahanol i’r byd pêl-droed!

Gohebu

Yr wythnos yma, fe fydda i’n cael y fraint o ddilyn y Tour of Britain o amgylch Cymru a Lloegr, a hynny yn ohebydd ar ran Golwg.

Mae’n anodd gwybod beth i’w ddisgwyl, wrth i mi gymysgu â newyddiadurwyr a gohebwyr proffesiynol y byd seiclo.

Rwy’n nerfus wrth gwrs, ac er fy mod yn gwybod digon am y byd seiclo, cawn weld sut y bydd pethau’n mynd!

Rydw i wedi darllen llawlyfr y wasg yn fanwl, ac yn dilyn y trydar, i gael gwybod y diweddaraf am y timau, a phwy sy’n cystadlu.

Bydd y profiad yn un gwych, ac rwy’n siŵr o ddysgu llawer.

Mi fydd fy nhaith yn cychwyn bore ddydd Llun  ym mharc Knowsley ger Lerpwl, ac yn parhau yn Blackpool ddydd Mercher, ac i Stoke on Trent dydd Iau.

Yna dychwelyd yn ôl  i Gymru ddydd Gwener, i Gastell Powys ger y Trallwng.

Tybed faint o ‘sideburns’ wela’ i’r wythnos nesaf!