Bydd Cymdeithas yr Iaith yn trafod datganoli grym i’r rhanbarthau yn eu cyfarfod cyffredinol ddydd Gwener.

Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno yn ystod cynhadledd ar ieithoedd lleiafrifol yn Aberystwyth.

Bydd nifer o siaradwyr blaenllaw yn cyflwyno eu profiadau yn ystod y gynhadledd, gan gynnwys Dr Siân Edwards o Brifysgol Abertawe, yr awdur ac ymgyrchydd Ned Thomas, yr awdur Cwrdaidd o Dwrci, Bejan Matur, Paul Bilbao Sarria o Wlad y Basg a Maria Areny o Gatalonia.

Bydd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans yn siarad yn y gynhadledd heddiw. Dywedodd hi cyn y gynhadledd: “Mae ieithoedd yn rhan o’n diwylliant a’n hunaniaeth. Mae dysgu ieithoedd newydd yn ein galluogi ni i weld y byd mewn ffordd wahanol.

“Mae parchu hawliau pobl eraill, gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio eu hiaith eu hunain, yn sylfaenol i’n democratiaeth.”

‘Rhannu syniadau’

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams: “Mae’r digwyddiadau dros y penwythnos hwn yn rhai cyffrous tu hwnt. Gobeithiwn y gall yr ymgyrchwyr o amryw o wledydd rannu syniadau a phrofiadau er lles y Gymraeg a’r ieithoedd eraill.

“Ers ein sefydlu gan lond llaw o bobl mae’r Gymdeithas wedi cael effaith ddi-gwestiwn ar lywodraeth San Steffan a Chaerdydd – o ennill S4C i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg. Yn sicr, ni fyddai gan y Gymraeg statws swyddogol ac ni fyddem wedi gweld creu Coleg Cymraeg heb ymdrechion y Gymdeithas.”

Ond rhybuddiodd hefyd fod yna dipyn o waith i’w wneud i sicrhau dyfodol i’r iaith, “ar lefel gymunedol yn ogystal â sicrhau hawliau sylfaenol fel yr amlygwyd yn ddiweddar gan brofiadau Jamie Bevan yn y carchar.”