Mae dyn 40 oed oedd yn gyrru car fu mewn gwrthdrawiad angheuol yn Aberdâr wythnos ddiwethaf wedi ei gyhuddo  o achosi dwy farwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Roedd y dyn wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher. Fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ar 14 Medi.

Bu farw dau ddyn ar ôl i gar Nissan Skyline fod mewn gwrthdrawiad â char Citroen Xsara.

Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhyw un a welodd y Nissan Skyline lliw gwyn ychydig cyn y gwrthdrawiad, wrth iddo deithio o ganol tref Aberdâr ar hyd yr A4059 tuag at Asda, i gysylltu â nhw.

Y rhifau i’w ffonio yw 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.