Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi gwadu fod pwyllgor am drafod dyfodol llefaru yn yr ŵyl.

Dywedodd y trefnydd, Hywel Wyn Edwards, fod y panel llefaru yn cwrdd ddiwedd mis Medi er mwyn gwerthuso Eisteddfod a fu, yn ôl arfer y panelau canolog bob blwyddyn.

“Does dim yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd bob blwyddyn,” meddai Hywel Wyn Edwards.

“Nid yw’r Eisteddfod wedi galw cyfarfod i drafod dyfodol y cystadlaethau llefaru, na chwaith wedi cael ein gwahodd i un,” ychwanegodd.

Bu’n rhaid canslo prif gystadleuaeth llefaru’r Eisteddfod eleni, sef Gwobr Llwyd o’r Bryn, gan mai dim ond un person wnaeth gystadlu am le ar y llwyfan.

Mae rhai wedi codi cwestiynau am ddyfodol y wobr, ac roedd cyn-feirniad ac enillydd y wobr, Geraint Lloyd Owen, wedi beirniadu’r Eisteddfod am ei gwthio hi “fan hyn a fan draw.”

Dywedodd Hywel Wyn Edwards y byddai’n rhaid i Gyngor yr Eisteddfod drafod unrhyw gynnig gan y pwyllgorau canolog, ac na fyddai unrhyw newid y flwyddyn nesaf beth bynnag, am fod y rhestr testunau wedi cael ei phenderfynu.

Lleoliad Eisteddfod 2014

Mae disgwyl i’r Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi erbyn diwedd y mis ble yn Sir Gaerfyrddin y bydd yr Eisteddfod yn 2014.

Mae amheuaeth wedi bod ers dros ddwy flynedd am union leoliad yr Eisteddfod. Dymuniad gwreiddiol yr ŵyl oedd mynd i Ddyffryn Aman ond methon nhw â chael tir yn yr ardal oedd yn ddigon gwastad.