John Griffiths
Mae Dinas a Sir Abertawe wedi derbyn arian gan Weinidog yr Amgylchedd, John Griffiths i godi arwyddion ffyrdd newidiol yn ystod oriau brig er mwyn lleihau tagfeydd a llygredd yr aer.

Cafodd £494,016 ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 14 o brosiectau yng Nghymru er mwyn gwella’r amgylchedd.

Bydd Abertawe’n derbyn ychydig dros £80,000 o’r cyllid.

Bydd prosiectau ym Mlaenau Gwent, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint ac Abertawe yn elwa o’r arian sy’n cael ei roi fel rhan o gynllun ‘Mannau Tawelach, Gwyrddach a Glannach’ a gafodd ei lansio ym mis Mai.

Mae yna fwriad i ddatblygu man tawel ger safle adeiladu yng Nglyn Ebwy, coridor bywyd gwyllt a man gwyrdd cymunedol yn Y Rhyl, ac i ddatblygu Parc Gwepre yn Sir Y Fflint.

‘Cymunedau tlotaf’

Dywedodd John Griffiths: “Rwy’n pryderu bod yr amgylchedd lleol gwaethaf i’w gweld yn ein cymunedau tlotaf, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, gyda thipio anghyfreithlon, sbwriel, ffyrdd anniogel, llygredd gormodol a diffyg mannau gwyrdd.

“Bydd y prosiectau sy’n cael cyllid heddiw yn cynnig manteision uniongyrchol i’r cymunedau tlotaf hyn.”

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cefnogi prosiectau awdurdodau lleol sy’n cynnig gwelliannau amgylcheddol sydd o fudd i bawb. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella ansawdd yr aer, sŵn amgylcheddol a mannau gwyrdd tawel.”

Cafodd 35 o geisiadau ar gyfer yr arian eu hystyried gan banel o gynghorwyr annibynnol Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru.