Mae cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal gan ddau fwrdd iechyd heddiw i drafod cynlluniau i ad-drefnu eu gwasanaethau.

Mae byrddau iechyd Betsi Cadwaladr yn y Gogledd a Hywel Dda yn y Canolbarth a’r Gorllewin yn wynebu colledion ariannol difrifol, a bydd y ddau gyfarfod yn Sir y Fflint a Sir Gaerfyrddin yn trafod sut i fynd i’r afael â’r trafferthion.

Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Hywel Dda golli hyd at £12.8 miliwn eleni, tra bo’r ffigwr yn £64.6 miliwn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Gyda’i gilydd, gallai chwech o fyrddau iechyd Cymru golli oddeutu £230 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Gallai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr benderfynu cau ysbytai cymunedol Y Fflint a Blaenau Ffestiniog, a gallai adrannau brys nifer o ysbytai eraill gau hefyd.

Mae yna bryderon y gallai adrannau gofal dwys mamolaeth gael eu trosglwyddo i Loegr.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy’n gwasanaethu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, wedi cyhoeddi eu bwriad i ganoli gwasanaethau ar gyfer babanod sâl yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Mae hyn wedi bod yn destun pryder i’r rhai sy’n byw yn nes at Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.