Jeremy Hunt
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, golli ei swydd wrth i David Cameron ad-drefnu ei Gabinet yfory.

Ac mae’n bosib y bydd yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt hefyd yn cael ei symud i adran wahanol.

Heno newidiodd Cheryl Gillan ei bywgraffiad ar Twitter i un nad oedd yn cyfeirio ati hi ei hun fel Ysgrifennydd Cymru.

Mae si y bydd Aelod Seneddol Basingstoke, Maria Miller, yn cael ei dyrchafu o’r Adran Waith a Phensiynau i swydd Ysgrifennydd Cymru yn y Cabinet.

Yn y cyfamser mae wedi dod i’r amlwg bod Jeremy Hunt, sydd fwyaf enwog ymysg y Cymry am dorri 25% o gyllideb S4C a’i drosglwyddo i ofal y BBC, yn disgwyl colli ei le.

Mae wedi bod dan y lach dros y misoedd diwethaf ar ôl cael ei holi gan Ymchwiliad Leveson i awgrymiadau ei fod wedi closio’n ormodol at Rupert Murdoch wrth ystyried ei gynnig am BSkyB.

Yn ôl papur newydd y Guardian mae’r disgwyl colli ei le yn y Cabinet, ond dyw hi ddim yn amlwg eto a fydd yn mynd i adran arall.

Mae’n bosib y bydd yn cael ei symud wysg ei ochor i’r Adran Ddatblygiad Rhyngwladol.