Mae camau cyfreithiol gan gwmni Virgin yn golygu na fydd y Llywodraeth yn arwyddo cytundeb gyda chwmni First Group ar gyfer gwasanaeth prif reilffordd arfordir y Gorllewin.

Collodd Virgin yr hawl i weithredu’r rheilffordd, sydd wedi bod o dan eu rheolaeth ers 1997,  ac maen nhw wedi cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad.

Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd, Theresa Villiers y byddai Llywodraeth Prydain yn gwrthwynebu’r achos cyfreithiol yn erbyn First Group “yn gadarn”.

Dywedodd mewn datganiad: “O ganlyniad i wrthwynebiad cyfreithiol – y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei amddiffyn yn gadarn – nid ydym eto wedi arwyddo’r cytundeb gyda First West Coast ac, o ganlyniad, mae’r gystadleuaeth yn agored o hyd.”

Mae cwmni Virgin wedi cyhuddo’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Justine Greening o ymddwyn yn “anghyfreithlon”, yn “afresymol” ac yn erbyn cyfraith yr Undeb Ewropeaidd drwy roi’r cytundeb gwerth £13.3 biliwn i First Group.

Ond dadleuodd Theresa Villiers y byddai First Group yn cynnig “gwelliannau sylweddol” i deithwyr.

Dywedodd: “Mae prif reilffordd arfordir y Gorllewin yn un o’r llwybrau trenau teithwyr rhyng-ddinesig pwysicaf yn y wlad ac mae’n ased cyhoeddus gwerthfawr hefyd.

“Dros y degawd diwethaf a mwy, mae trethdalwyr wedi buddsoddi £9 biliwn i ddiweddaru’r isadeiledd.

“Mae’n ryddfraint werthfawr i’r gweithredwr presennol ac ar ôl buddsoddiad cyhoeddus sylweddol yn y llinell, mae’r Llywodraeth yn gywir iawn yn ceisio cael ad-daliad sylweddol i deithwyr a threthdalwyr.”

Cefndir

Roedd y Blaid Lafur wedi rhoi pwysau ar y Llywodraeth i beidio ag arwyddo cytundeb newydd cyn cynnal arolwg.

Mae deiseb ar-lein, sydd wedi ei llofnodi gan 165,000 o bobl yn galw am ail-ystyried y penderfyniad gwreiddiol.

Yn ôl y cytundeb arfaethedig, byddai’r cwmni’n gyfrifol am y rheilffordd hyd at 2026.

Mae’r cwmni eisoes yn rheoli Great Western a ScotRail, ac yn gwasanaethu teithwyr yn ardaloedd Llundain, Canolbarth a Gogledd Orllewin Lloegr, Gogledd Cymru a Chanolbarth yr Alban.