Mae blogwyr wedi cwyno ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai dim ond un blog gyfan gwbwl Gymraeg sydd ar restr fer gwobrau blogio Cymru eleni.

Cyhoeddodd y Wales Blog Awards eu rhestr fer yr wythnos diwethaf. Dim ond Hacio’r Iaith oedd wedi cyrraedd y rhestr fer, a hwnnw dan y categori blogiau technoleg.

Roedd blog dwyieithog, y Cneifiwr, ar restr fer y blogiau gwleidyddol.

Am y tro cyntaf eleni roedd blogiau Cymraeg yn cael eu cynnwys ymysg yr un categorïau a’r rhai Saesneg, yn hytrach na mewn categori ar wahân.

Dywedodd y blogiwr Paul Williams, sy’n cynnal blog Ar Asgwrn y Graig, nad oedd yn teimlo bod y system newydd yn un teg.

Roedd wedi ymateb i flog gan un o’r beirniaid, Ifan Morgan Jones, ar y pwnc, a hefyd i neges ar un o’r blogiau Cymraeg a gafodd eu henwebu ond nad oedd yn llwyddiannus, Asturias yn Gymraeg.

“Y peryg â stwffio blogs Cymraeg ymysg y rhai Saesneg ydi ei bod yn bosib, os nad yn wir debygol, taw blog Saesneg fydd yn mynd â  hi ymhob categori,” meddai.

“Allan o 10 adran eleni, dim ond yn un ohonynt mae blog Cymraeg wedi cyrraedd y rhestr fer, sef Hacio’r Iaith, dan ‘Technoleg’.

“Mae yna gyfanswm o un blog yn Gymraeg a 31 yn Saesneg. Ychydig iawn iawn o Gymraeg sydd ar flog Y Cneifiwr.

“Pam ddim gwobrwyo un blog o bob iaith ymhob categori, a gofyn i’r cyhoedd bleidleisio wedyn ar brif wobr y ddwy iaith?”

Dywedodd fod y tueddiad i groesawu blogwyr i enwebu eu hunain hefyd o bosib yn cyfri yn erbyn y blogwyr Cymraeg.

“Yr unig beth arall sy’n fy nharo yn chwithig ydi fod blogwyr yn cael enwebu eu gwaith eu hunain,” meddai wrth Golwg 360.

“Efallai nad ydi’r Cymry Cymraeg mor barod i glochdar drostyn nhw’u hunain, a hyn o bosib yn golygu fod llai o flogiau Cymraeg ar y rhestr hir.”

Beirniaid

Dywedodd Ifan Morgan Jones fod pump o feirniaid yn rhan o’r broses o ddewis y rhestr fer, a bod dau o’r rheini yn gallu siarad a darllen Cymraeg.

“Roedd y beirniaid di-Gymraeg yn barod iawn i wrando os oedden ni’n dweud bod blog yn haeddu cael ei gynnwys ar y rhestr fer,” meddai.

“Y broblem yn fy nhyb i oedd nad oedd nifer o’r blogiau Cymraeg gorau wedi eu henwebu yn y lle cyntaf. Rydw i’n gallu meddwl am sawl un fyddai wedi haeddu lle ar y rhestr fer.

“Ni fyddai wedi bod yn deg cynnwys blogiau ar y rhestr fer am eu bod nhw yn Gymraeg yn unig, gan ddisodli blogiau Seasneg oedd o safon uwch.

“Rydw i’n sicr o’r farn y dylai blogiau Cymraeg gael eu cynnwys yn yr un categorïau a’r rhai Saesneg, yn hytrach na mewn categori ar wahân.

“Mae eu rhoi mewn categori ar wahân yn awgrymu nad ydi  dylanwad y blogiau Cymraeg yn lledu dim pellach na ffiniau’r iaith.

“Mewn gwirionedd maen nhw’n rhan bwysig o gymuned ehangach o flogiau Cymreig ac maen nhw’n haeddu cael eu beirniadu yn yr un modd.”