Mae cynrychiolwyr ffermwyr llaeth Prydain wedi dod i gytundeb ar gôd ymddygiad gwirfoddol gyda phroseswyr llaeth.

Mae disgwyl i fanylion y cytundeb gael eu cyhoeddi yfory ar ôl misoedd o drafod rhwng undebau a chwmnïau sy’n prynu ac yn prosesu’r llaeth.

Daeth y ddwy garfan i gytundeb yn anffurfiol yn ystod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf a buont yn trafod manylion y cytundeb drafft dros yr haf.

Mae’r gostyngiad eleni mewn prisiau llaeth a phrotestiadau gan ffermwyr y tu allan i ffatrïoedd yn Lloegr wedi cynyddu’r pwysau am gytundeb. Mae undebau amaeth wedi bod yn dadlau ei bod hi’n costio mwy i rai ffermwyr gynhyrchu llaeth nag y maen nhw’n ei gael am ei werthu.

Mae’n debyg bod y côd ymddygiad yn cynnwys rhoi hawl i ffermwyr adael cytundeb gyda phrosesydd llaeth os yw’r prisiau yn newid yn groes i’w hewyllys a bod y ffermwr yn rhoi tri mis o rybudd.

Rhaid i ffermwyr hefyd gael rhybudd o 30 diwrnod os yw pris am newid, dan y cytundeb newydd.

‘Arf’

Dywedodd Dai Davies, Cadeirydd Pwyllgor Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru, y bydd y cytundeb yn “ei gwneud hi’n haws i’r ffermwyr.”

“Dy’n ni ddim wedi derbyn prisiau teg am ein llaeth ers rhai blynyddoedd a mae’r cytundeb yn un o’r arfau y medrwn ni ddefnyddio i sicrhau ein bod ni’n cael prisiau teg,” meddai Dai Davies wrth Golwg360.

Ond rhybuddiodd na fydd y cytundeb yn cynnig ateb i holl heriau’r sector llaeth, a bod angen i ffermwyr gydweithio mwy os ydyn nhw am ffynnu.