Mae yna amheuon am ddyfodol marina Abertawe wedi iddi ddod i’r amlwg fod arian a gafodd ei neilltuo wedi cael ei wario ar brosiectau eraill.

Roedd disgwyl i’r marina gael ei adnewyddu fel rhan o gynllun gwerth £19 miliwn i adfywio datblygiad SA1 yn y ddinas.

Daeth i’r amlwg fod adeiladau ar gyfer busnesau a llety yn SA1 – oedd fod i chwarae rhan flaenllaw yn y cynllun – wedi cael eu gwerthu.

Cafodd y cynlluniau gwreiddiol eu gohirio yn 2008 oherwydd y wasgfa ariannol.

‘Ail orau’

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Rhyddfrydol, Peter Black wrth BBC Radio Wales nad yw Abertawe’n cael ei thrin gystal â Chaerdydd.

Dywedodd: “O ran cyfanswm yr arian sy’n cael ei wario ym Mae Caerdydd – sydd yn siŵr o fod yn cyfateb i £100 miliwn neu fwy – cymharwch hynny â’r hyn sy’n cael ei wario i lawr ym Marina Abertawe ac SA1, mae’n bitw ac, i fod yn blwmp ac yn blaen, mae Abertawe’n ail orau yma.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae yna nifer o honiadau camarweiniol wedi bod ynghylch arian ar gyfer SA1 a marina posib. Fu yna erioed ‘bot o arian’ wedi’i roi neu ei neilltuo’n benodol ar gyfer marina yn SA1.

“Cyn 2008, daeth yr unig arian ar gyfer SA1 drwy werthu tir neu Gronfeydd Ewrop, gydag incwm dim ond ar gael i’w wario yn y flwyddyn y câi ei gynhyrchu. Ers 2008, mae SA1 wedi elwa o waredu ar y neilltuaeth gan fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £9.3 miliwn yn SA1, sydd bron yn £6.4 miliwn yn fwy nag a dderbyniwyd trwy werthu tir yn yr un cyfnod.
“Mae lleoliad y Glannau’n parhau i fod yn un o’r prif ffactorau wrth ddenu buddsoddwyr newydd mewn tai a datblygiad masnachol yn arwain Doc Tywysog Cymru. Mae ardal y doc bellach yn cael ei defnyddio’n aml gan glwb campau dwr ac maen nhw’n cydweithio’n agos gydag ysgolion Abertawe i gyflwyno hwylio a champau dwr eraill i blant lleol.”