Mae’r delynores glasurol Gymreig, Claire Jones, yn rhyddhau albwm clasurol newydd heddiw.

Eleni fe gwblhaodd Claire Jones ei phedair blynedd fel Telynores Swyddogol Tywysog Cymru – y delynores sydd wedi bod yn y swydd am y cyfnod hiraf hyd yma.

Yn ystod y cyfnod hwn bu’n chwarae mewn dros 170 o ddigwyddiadau brenhinol a chyhoeddus yn ogystal â chwarae’n breifat i aelodau o’r Teulu Brenhinol.

Tuag at ddiwedd ei chyfnod gofynnwyd iddi berfformio yn y Briodas Frenhinol, i groesawu EHB Dug a Duges Caergrawnt yn ôl i Balas Buckingham yn dilyn eu seremoni briodasol.

Ers hynny, mae wedi perfformio gyda rhai o enwau mwyaf adnabyddus y diwydiant fel Bryn Terfel, Julian Lloyd Webber, Alfie Boe a Syr Neville Marriner.

Priodi

“Mae wedi bod yn freuddwyd gen i ers amser maith i ryddhau albwm sy’n dod â’r delyn i gynulleidfa ehangach,” meddai Claire Jones.

“I mi, mae’r broses wedi bod yn bleser, a gobeithio y bydd gwrandawyr yn clywed hynny trwy’r gerddoriaeth.”

Flwyddyn ar ôl chwarae yn y Briodas Frenhinol, mi fydd y ferch ifanc o orllewin Cymru hefyd yn priodi yn hwyrach fis yma.

Fe ddyweddïodd gyda Chris Marshall – a drefnodd y gerddoriaeth ar gyfer yr albwm – yn Rio de Janeiro y llynedd.

Mae The Girl With The Golden Harp ar gael trwy Classic FM heddiw.