Mae’r
Rachel Jones
heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ferch 14 oed fynd ar goll o’i chartre’ yn Aber෢r.

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae Rachel Jones yn “fregus” ac maen nhw’n pryderu am ei lles.

Mae wedi bod ar goll ers tua chwech o’r gloch nos Fercher ac mae’r heddlu hefyd yn apelio ar iddi hi gysylltu â nhw neu ei theulu.

Fe gafodd ei gweld ddiwetha’ yng ngorsaf reilffordd Caerffili, a’r gred yw ei bod wedi dal trên i Gaerdydd.

Mae ganddi gysylltiadau gyda nifer o ardaloedd ar draws de Cymru, gan gynnwys Caerdydd a Chaerffili a llefydd yng nghymoedd Cynon a Rhymni.

Disgrifiad

Dyma’r disgrifiad ohoni:

  • Gwallt golau, wedi ei liwio’n biws yn y cefn.
  • Siaced ddu lled esgus a legins tywyll gydag addurn diamanté ar y pocedi.
  • Sgidiau brown, tebyg i rai ugg a wats wen Coleen Rooney, gyda phatrwm diamanté.

Dylai unrhyw un sydd wedi gweld Rachel gysylltu gydag adran CID yr heddlu yn Aberdâr ar 101.