Gwynfor Evans - cafodd ei eni 100 mlynedd i heddiw
I nodi diwrnod canmlwyddiant geni Gwynfor Evans, fe fydd cronfa’n cael ei lansio heno ar gyfer codi cofeb parhaol yng Nghaerfyrddin i gyn-lywydd Plaid Cymru.

Fe fydd y lansio’n digwydd am 6.30 ar y Garn Goch, gerllaw Llandeilo, lle mae carreg goffa i’r gŵr a fu’n arwain Plaid Cymru o 1945 hyd 1981 ac a fu’n Llywydd Anrhyeddus arni tan ei farwolaeth yn 2005.

Fe fydd gwasanaeth coffa arbennig hefyd yn cael ei gynnal yng Nghapel Priordy, Caerfyrddin, brynhawn yfory am 3.00.

Er mai yn y Barri y ganed Gwynfor Evans ar Fedi 1, 1912, treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn nyffryn Tywi, a Sir Gaerfyrddin oedd yr etholaeth lle daeth yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn 1966.

Gobaith aelodau Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yw cael cofeb iddo’n barod erbyn 2016 – i nodi hanner canmlwyddiant ei fuddugoliaeth enwog.

Teyrnged Dafydd Wigley

Fe fydd Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru, Dafydd Wigley, hefyd yn nodi canmlwyddiant geni Gwynfor Evans mewn darlith yng nghynhadledd Plaid Cymru ymhen pythefnos.

Meddai wrth Golwg360 heddiw:

” Gwynfor, yn anad neb, a greodd wleidyddiaeth cenedlaethol Cymru yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.

“Llwyddodd i sefydlu’r egwyddor fod gan bobl Cymru y rhyddid i benderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol eu hunain drwy ennill cydnabyddiaeth fod Cymru yn uned genedlaethol – ac nid rhanbarth Prydeinig.

“Heb ei weledigaeth ef, ni fyddai gennym heddiw ein Senedd ein hunain – a go brin byddai r Alban yn symud at annibyniaeth chwaith.

“Yr  her i’r genhedlaeth nesaf yw cynhyrchu gwleidyddion sydd yr un mor fodlon â Gwynfor I roddi buddiannau Cymru uwchben uchelgais personol.”