Bu fferm symudol yn ymweld â chanol dinas Abertawe heddiw.

Roedd arbenigwyr yno drwy gydol y dydd yn trin llo bach, merlen a chywion ieir ac yn addysgu aelodau o’r cyhoedd am fywyd fferm.

Cafodd cyfweliadau byw eu cynnal gan orsaf radio lleol The Wave yn y digwyddiad rhwng 10.30yb a 3yh.

“Mae digwyddiadau o’r natur yma’n hwb i’r ddinas ac yn codi ymwybyddiaeth ein masnachwyr,” meddai Emma Martin-Jewell, Arweinydd Tîm Canol Dinas Cyngor Abertawe.

“Cafodd digwyddiad tebyg ei gynnal yn gynharach eleni ac roedd yn boblogaidd iawn, yn enwedig ymysg ein hymwelwyr ifanc,” ychwanegodd.

“Mae’n rhywbeth sy’n bwysig iawn yn ystod cyfnod o galedi economaidd yn Abertawe a drwy gydol Prydain.”

Fe drefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â chwmni fferm symudol o’r enw Farms2Ewe.